Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
25 Tachwedd 2015
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(15 munud)
(0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
(30 munud)
NNDM5872 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2015, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 12 Hydref 2015, yn cael ei ddirymu.
(60 munud)
NDM5888 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod lefelau sbwriel, cŵn yn baeddu, tipio anghyfreithlon a graffiti yn parhau i fod yn bla ar lawer o gymunedau lleol ledled Cymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i edrych ar gynyddu cosbau ar gyfer troseddau amgylcheddol; a
3. Yn cydnabod y rôl y gall ailgylchu ei chwarae yn y broses o leihau gwastraff a sicrhau cymunedau glanach ledled Cymru ac yn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar atebion arloesol i hybu ailgylchu ymhellach.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi y gall awdurdodau lleol waethygu'r sefyllfa hon drwy godi tâl ar gyfer casglu gwastraff swmpus a chau canolfannau ailgylchu.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:
'gan gynnwys dirwyon yn y fan a'r lle er mwyn glanhau ein strydoedd a'n ardaloedd gwledig.'
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3, cyn 'ymhellach' mewnosod:
', trwsio ac ailddefnyddio'
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion plastig a gwydr a chaniau diod yng Nghymru.
(60 munud)
NDM5890 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru;
2. Yn cydnabod yr angen i ddatblygu gogledd Cymru fel pwerdy economaidd ochr yn ochr â phwerdy gogledd Lloegr a gan gydweithio gydag ef er mwyn hyrwyddo gweithgarwch economaidd trawsffiniol;
3. Yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddiad seilwaith i hyrwyddo'r economi, yn galw am raglen barhaus o welliannau i goridor yr A55 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru; a
4. Yn credu bod yn rhaid i fasnachfraint ddatganoledig nesaf Cymru barhau i gynnwys llwybrau i ogledd-orllewin Lloegr.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 3:
'i wella'r potensial ar gyfer cludo teithwyr a nwyddau ar reilffyrdd.'
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 4:
'a diogelu cysylltiadau rheilffordd â Birmingham.'
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU bod gogledd Cymru yn rhan ganolog o brosiect pwerdy'r gogledd.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth glir sy'n anelu at sicrhau bod gogledd Cymru yn elwa ar yr holl fanteision posibl y mae prosiect pwerdy'r gogledd yn eu cynnig.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai penodi Gweinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dynodedig ar gyfer gogledd Cymru yn chwarae rôl hollbwysig o ran gwella perfformiad economaidd y rhanbarth.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder y sylwadau gan gadeirydd Siambr Fasnach Gogledd Cymru, a ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio gormod ar Gaerdydd.
'North Wales: Chamber boss Richard Thomas calls for devolution debate' (Saesneg yn unig)
(60 munud)
NDM5889 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cytundeb byd-eang ar gytuniad newid hinsawdd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2015 ym Mharis, i sicrhau bod yr amcan y cytunwyd arno yn rhyngwladol o gyfyngu ar gyfartaledd y cynnydd mewn tymheredd byd-eang i lai na dwy radd Celsius yn aros o fewn cyrraedd; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain gydag uchelgais drwy osod targed ym Mil yr Amgylchedd (Cymru) ar gyfer gostyngiad o 100 y cant mewn nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ar gyfer 2020.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei gwaith cynllunio economi carbon isel ar gyfer Cymru, i ddarparu swyddi gwyrdd ar gyfer y dyfodol.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd monitro allyriadau carbon blynyddol.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r rôl y gall ôl-osod eiddo hŷn ei chwarae o ran bodloni'r targedau lleihau allyriadau carbon.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau rheoliadau adeiladu a uwchraddio ei rhaglen ôl-osod yn sylweddol er mwyn torri allyriadau, helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a chreu swyddi.
(30 munud)
NDM5887 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Pentecostiaeth yng Nghymru: Pam ddylai Cymru wneud mwy i ddathlu ei threftadaeth gyfoethog Pentecostaidd.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2015